Mae’r heddlu oedd yn ymchwilio i achos dynes oedd wedi cael ei llusgo i mewn i gar ym Mhontypridd wedi rhyddhau pedwar o ddynion yn ddi-gyhuddiad.

Dywedodd llefarydd mewn datganiad fod plismyn wedi bod yn gwneud ymholiadau yn ystod y dydd, ond bod yr ymchwiliad bellach wedi dod i ben.

Roedden nhw wedi bod yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiadau bod y ddynes wedi cael ei ‘chipio’ wrth gerdded ar hyd Heol Sardis y dref am oddeutu 1.40 y bore ma.

Roedd dau ddyn arall wedi stopio i roi cymorth iddi, meddai apêl yr heddlu, a hynny ar ôl i gar BMW gwyn stopio ger Ysgol Gynradd Evan James.