Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dod o hyd i ddyn 25 oed o Birmingham yr oedden nhw am ei holi ynghylch ’digwyddiad domestig’.

Roedden nhw’n awyddus i holi Muhammad Adnan Pervez ynghylch y digwyddiad yn Y Drenewydd.

Roedden nhw wedi bod yn apelio am wybodaeth, ond daeth cadarnhad eu bod nhw wedi dod o hyd iddo’r prynhawn yma.