Mae Heddlu’r De’n apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Resolfen ger Castell-nedd yn oriau man fore Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 1.55am yn dilyn y digwyddiad ger cylchfan yr A465.

Bu farw gyrrwr Renault Clio arian yn y fan a’r lle, ac mae dyn 57 oed oedd yn teithio yn y car yn yr ysbyty â man anafiadau.

Mae teulu’r dyn fu farw’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

Fe fu’r ffordd ynghau am rai oriau yn dilyn y gwrthdrawiad, ac mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.