Llun ymgyrchu gan yr NSPCC
Fe fu cynnydd mawr yn nifer yr achosion o esgeuluso plant yng Nghymru.

Yn ôl elusen NSPCC Cymru, roedd 804 o achosion wedi eu cyfeirio ganddyn nhw at yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol y llynedd.

Mae hynny’n gynnydd o 80% mewn pum mlynedd – y ffwgwr yn 2011 oedd 447.

Ar draws gwledydd Prydain, mae’r NSPCC yn tynnu sylw at 46 o achosion bob dydd.

Cynnydd mawr

Mae’r achosion yn codi o awladau gan oedolion i linell gymorth yr elsuen ac mae nifer o ardaloedd yng Nghymru wedi dangos cynnydd mawr yn ystod y pum mlynedd diwetha’.

Caerdydd – o 55 i 242

Rhondda Cynon Taf – o 35 i 161

Caerffili – o 23 i 125

Abertawe – o 28 i 112

Casnewydd – o 27 i 101

Sir Gaerfyrddin – o 27 i 98

‘Effaith tymor hir’

Mae NSPCC Cymru wedi apelio am i fwy o bobol roi gwybod os ydyn nhw’n amau bod plentyn yn diodde’.

“Gall esgeulustod gael effaith tymor hir ar blant a bod yn arwydd o fathau eraill o gam-drin,” meddai Des Mannion, pennaeth NSPCC Cymru.

“Mae’n hanfodol ein bod yn deal gwir natur a graddfa esgeuluso plant yn y Deyrnas Unedig fel y gallwn gyda’n gilydd gefnogi teuluoedd sydd mewn treafferth.

“Rhaid I ni hefyd fod yn fwy ymwybodol o esgeulstod emosiynol, pan fydd rhieni’n methu â chynnig y math o rianta cynnes, sensitive, cariadus sydd ei angen ar blant.”

Esgeulustod – beth yw e?

Y diffiniad o esgeulustod yw methu â chynnig diogelwch, gofal corfforol a chariad i blant a hynny i’r fath raddau ei fod yn debyg o wneud niwed difrifol a pharhaol.

Mae’r rhesymau sy’n cael eu nodi gan yr NSPCC yn cynnwys diffyg sgiliau rhieni, diffyg arian a phroblemau alcohol a chyffuriau.