Traffig ar yr A55 yn Abergwyngregyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod am “edrych o’r newydd” ar welliannau posib i ffyrdd yr A55 a’r A494 yng ngogledd Cymru.

Daw hyn wedi i’r Llywodraeth lansio astudiaeth i ansawdd y ffyrdd ym mis Ebrill, ac mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyflwyno ym mis Hydref.

Ac yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, mae cynnal gwelliannau i’r ffyrdd yn “hanfodol i economi gogledd Cymru”.

‘Gwelliannau pellach’

Mae Ken Skates yn cydnabod fod yr A55, sy’n rhedeg o Gaer i Gaergybi, wedi ei “hadeiladu ddegawdau yn ôl ac nid oedd erioed wedi’i chynllunio i ymdopi â dros 70,000 o gerbydau”.

“Yn ei chyflwr presennol, mae’r ymhell o fod y porth modern delfrydol i gefnogi pobol ac economi gogledd Cymru,” meddai.

Am hynny, dywed y bydd rhannau newydd gan gynnwys ‘Coridor Glannau Dyfrdwy’, fydd yn costio £200m, yn cyfrannu at y gwelliannau.

Ond mae’n mynd ymhellach gan ddweud ei fod “wedi dweud yn glir y dylid, ac y gellir, gwneud gwelliannau pellach pan yn bosib, fel bod modd inni sicrhau bod y ffordd hollbwysig hon yn perfformio cystal â phosib”.

Ychwanegodd y bydd yn llunio “rhaglen gynhwysfawr” o welliannau ar ôl derbyn yr astudiaeth ym mis Hydref.