Mae ffermwyr yn siroedd Dinbych a Fflint yn dweud bod angen mynd ati “ar frys” 
i gyflwyno mapiau ansawdd uchel er mwyn mynd i’r afael â phroblem TB yng nghefn gwlad.

O Hydref 1 ymlaen, fe fydd newidiadau yn cael eu cyflwyno i’r ffordd y mae clefyd y diciâu yn cael ei reoli, gyda ffermwyr yn cael eu rhannu i dri pharth – risg uchel, risg canolig a risg isel.

Yn ôl Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Sir y Fflint, Eurwyn Roberts, mae nifer o aelodau’r undeb yn “pryderu na fyddan nhw’n gwybod ym mha barth y mae eu ffermydd nhw”.

A’r ateb, meddai, yw cyflwyno mapiau ansawdd uchel, fyddai’n nodi’n glir, i ba barth mae pob fferm yn perthyn.

Wynebu cosbau

“Mae rheolau a rheoliadau gwahanol yn gysylltiedig â phob parth,” meddai. “Mae hyn yn cymhlethu pethau. Ond, os ydych chi hefyd yn ansicr am ba barth yr ydych chi, does dim modd cydymffurfio ac rydych yn wynebu cael eich cosbi.”

“Un peth fyddai’n ateb y broblem fyddai mapiau ansawdd uchel o’r holl barthau TB. Rydym yn gobeithio gall Llywodraeth Cymru ein helpu trwy ddarparu’r rhain cyn gynted ag sy’n bosib.”