Mick Antoniw
Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi amddiffyn trydariad gan Arweinydd Plaid Cymru ynglŷn ag ymosodiadau brawychol yn Sbaen yr wythnos ddiwethaf.

Gan ymateb i’r ymosodiadau ar ei thudalen Twitter ddydd Iau diwethaf (Awst 17) dywedodd Leanne Wood: “Ofnadwy. Ai eithafiaeth asgell dde bellach yw hyn?”

Cafodd y neges ei beirniadu’n hallt gan bleidiau’r dde yng Nghymru, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Leanne Wood o “geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol”. Roedd arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, wedi galw arni i ymddiswyddo.

Ond mae’r Aelod Cynulliad Llafur, Mick Antoniw, wedi ymateb trwy trydaru sylw Facebook Leanne Wood ynghyd â neges o gefnogaeth iddi.

Cefnogaeth y Cwnsler

“Ideoleg asgell dde eithafol ffwndamentalaidd yw ISIS,” meddai Mick Antoniw, sy’n cynrychioli Pontypridd yn y Cynulliad Cenedlaethol. “Mae dy ddisgrifiad yn iawn. Does dim rheswm i ti ymddiheuro.”

Ymatebodd yr Aelod Cynulliad Llafur, Mike Hedges, hefyd i’r neges gan nodi: “Rwyt ti’n iawn, mae gan yr asgell dde eithafol sawl wyneb.”

Bu farw 15 o bobol yn sgil yr ymosodiadau yn Barcelona a Cambrils ddydd Iau. Mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad Barcelona.