Jonathan Edwards (llun: Plaid Cymru)
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol, Liam Fox, wneud ei orau i rwystro llywodraethau Cymru na’r Alban rhag cael llais mewn cytundebau masnach rhwng Prydain a gwledydd eraill.

Ar hyn o bryd, mae llywodraeth Prydain yn ystyried pedwar dewis o ran rôl llywodraethau datganoledig wrth lunio cytundebau masnach rydd ar ôl Brexit, cyn cyhoeddi papur gwyn ar ei bwriadau yn yr hydref.

Un o’r dewisiadau hyn yw bod masnach yn fater i lywodraeth Prydain yn unig – ac mae’n ymddangos mai dyna yw barn Liam Fox.

Byddai hyn yn “warthus” yn ôl Plaid Cymru.

“Os yw Prydain yn gadael yr undeb tollau sy’n ei galluogi i daro cytundebau masnach, mae’n hanfodol nad oes cytundeb yn cael ei arwyddo heb gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru,” meddai llefarydd y Blaid ar y Trysorlys, Jonathan Edwards.

“O fewn yr undeb tollau, mae aelod-wladwriaethau a llywodraethau is-wladwriaethol, fel Wallonia yng Ngwlad Belg, yn gallu gwrthod cytundebau masnach.

“Byddai’n warthus pe na bai llywodraethau cenedlaethol o fewn y wladwriaeth Brydeinig yn gallu amddiffyn eu buddiannau economaidd yn y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit.”