Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am ddyn sydd wedi bod ar goll ers bore ddoe.

Cafodd  Daniel Glyndwr Owen, 54 oed, ei weld ddiwethaf yn Mary Street, Porthcawl tua 9.45, a chaiff ei ddisgrifio fel dyn 5 troedfedd 7 modfedd o daldra gyda gwallt a barf brown golau / llwyd. Mae ganddo tatŵ amlwg ac anghyffredin o adar ac esgyrn ar ei fraich dde.

Mae’r heddlu’n pryderu fwyfwy amdano ac yn pwyso ar i unrhyw un â gwybodaeth eu ffonio nhw ar 101 gan nodi cyfeirno 1700321738.