Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur. Llun: PA
Etholaethau ymylol Arfon ac Aberconwy fydd yn cael sylw Jeremy Corbyn heddiw wrth iddo barhau â’i daith haf o gwmpas etholaethau ymylol Prydain.

Yn yr etholiad ym mis Mehefin, fe ddaeth Llafur o fewn 92 pleidlais i gipio Arfon oddi ar Blaid Cymru ac o fewn 635 o bleidleisiau i gipio Aberconwy oddi ar y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb.

Mae disgwyl cannoedd i ddod i wrando ar arweinydd Llafur mewn maes parcio ger pwll nofio Bangor am 1.30 y pnawn yma.

Mewn datganiad ymlaen llaw, dywedodd y bydd ei anerchiad i’r dorf yn canolbwyntio ar gynlluniau Llafur i ddatblygu’r economi.

“ Mae ar bobl Cymru angen llywodraeth yn San Steffan sydd ar eu hochr nhw,” meddai.

“Fe fydd llywodraeth nesaf Llafur yn trawsnewid ein heconomi, gan adeiladu ar waith Llywodraeth Cymru gyda Banc Datblygu Cymru.

“Fe fydd Llafur yn dod ag isafswm cyflog o £10 erbyn 2020 ac yn diddymu’r cap ar gyflogau’r sector cychoeddus, ac yn dod â biliau o dan reolaeth.

“Byddwn yn rhoi arian a rheolaeth yn ôl yn nwylo pobl.”

Wrth gyfeirio at fwyafrifoedd bach Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn Arfon ac Aberconwy, meddai:

“Gallwn ennill yma a ffurfio’r llywodraeth nesaf a fydd yn gweithio dros y llawer ac nid yr ychydig.”