Leanne Wood

Mae’r Ceidwadwyr ac UKIP wedi galw ar arweinydd Plaid Cymru i ymddiswyddo tros ei hymateb i’r lladdfa yn Barcelona.

Ar ei thudalen Twitter, fe wnaeth Leanne Wood ysgrifennu neges yn gofyn: “A yw hyn yn fwy o frawychiaeth asgell dde eithafol?”, a chynnwys dolen gyswllt i erthygl am yr ymosodiad brawychol yn y ddinas yng Nghatalunya.

Mae hynny wedi cythruddo’r Torïaid Cymreig, sy’n dweud bod Leanne Wood yn “ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol”.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad, Janet Finch-Saunders, dylai ymddiheuro neu sefyll i lawr fel arweinydd y Blaid.

Ac mae UKIP wedi cyhuddo Leanne Wood o’u rhoi yn yr un cwch â llofruddion, am bod Arweinydd Plaid Cymru yn cyfeirio at y blaid fel un “dde eithafol” mewn dadleuon ar lawr Siambr y Senedd.

“Mae ei chwestiwn yn ymgais tawel i gysylltu’r llofruddwyr brawychol yma gyda’n plaid; mae’n gwbl warthus,” meddai llefarydd UKIP.

“Mae Leanne Wood wedi colli pob hygrededd o fewn Plaid [Cymru] a thu hwnt ac mae’n bryd iddi fynd.”

Amddiffyn y neges

Mae Leanne Wood wedi amddiffyn ei sylwadau drwy ddweud bod “pob ffurf o drais gwleidyddol yr un peth”.

“Yr Unol Daleithiau, Barcelona, pob man. Maen nhw’n cael eu cymell gan ideoleg ac mae’n rhaid i ni ddeall hynny i’w atal.”

Hyd yn hyn, mae 1,500 o negeseuon ar Twitter yn ymateb i sylw gwreiddiol Leanne Wood, sy’n dweud bod rhai o’r ymatebion wedi “croesi’r llinell”.

Sylw Leanne Wood am “erchylltra” ymosodiadau terfysgol Barcelona

Yn ei sylw am yr ymosodiadau terfysgol yn Barcelona ddoe, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:

“Yn bennaf oll, rwy’n meddwl am ddioddefwyr yr erchylltra a ddatblygodd yn Barcelona neithiwr. Rwyf wedi cyfleu cydymdeimlad dwysaf Plaid Cymru i Lywodraeth Catalonia.

“Daeth yn amlwg iawn mai ymosodiad terfysgol arall mewn cerbyd oedd hwn, gydag ISIS yn hawlio cyfrifoldeb.

“Mudiad ffasgaidd yw ISIS. Fe’i hysbrydolir gan ideoleg casineb a thrais sydd yn  gwneud bwganod o leiafrifoedd ac yn ystyried bod menywod yn llai o werth na dynion. Rhaid gwrthod yr ideoleg aden-dde eithafol hon a’r trais sy’n mynd gyda hi, a’i wrthwynebu lle bynnag y daw i’r amlwg – boed hynny’n ffwndamentaliaeth Islamaidd neu oruchafiaeth gwyn.

“Mae Plaid Cymru yn parhau i fod o blaid buddsoddi mewn gwrthderfysgaeth, casglu cudd-wybodaeth a phlismona rheng-flaen, yn ogystal â gwasanaethau all wrthweithio’r ideoleg hon.

“Fel llawer eraill, dymunwn ganmol ymateb y gwasanaethau brys Catalanaidd a ataliodd hyd yn oed fwy o bobl rhag cael eu hanafu neu eu lladd.”