Mary Grice Woods
Mae merch ifanc o Aberystwyth wedi disgrifio’r anhrefn a phanig ar strydoedd Barcelona yn syth wedi’r ymosodiad brawychol nos Iau a laddodd 13 o bobol.

Dim ond oherwydd bod ei thaith awyren yn hwyr y llwyddodd y Gymraes i osgoi’r gyflafan.

Roedd Mary Grice Woods, 16, a’i theulu ar fws o’r maes awyr i ganol y ddinas pan wnaeth fan yrru i mewn i dorfeydd ar un o strydoedd prysuraf y ddinas, Las Ramblas. Yn ogystal â’r 13 bu farw, cafodd dros 100 eu hanafu.

“Yn sydyn wnaeth y bws troi lan i stryd fach a dropio ni off a dweud: ‘We can’t take you into centre city, big crash, big crash’,” meddai Mary Grice Woods wrth golwg360.

“Ar y pryd, doeddwn ni ddim yn sylweddoli bod hwn yn rhywbeth difrifol iawn, felly fe wnaethon ni ddechrau cerdded at ganol y ddinas lle’r oedd ein gwesty ni.

“Roedd pobol yn rhedeg lan tuag atom yn crio ac yn sgrechian. Roedden nhw’n dweud wrthym ni: ‘Turn around, turn around, get out of the city. Danger, danger!’

“Fel pobol ddiarth yn yr ardal, doedden ni ddim yn gwybod lle i fynd, felly fe wnaethon ni sefyll gyda grŵp o bobol a ddaeth off y bws, ac roedd heddlu yn dweud wrthym ni: ‘You can’t go into the city at all’.

“Ond, doedd gennym ni unlle i fynd, heblaw am fynd i mewn i’r ddinas lle oedd ein gwesty ni. Felly, fe wnaethom ni ddechrau cerdded ar hyd stryd tuag at le oedd y twristiaid angen mynd i gael tacsis.

“Roedden ni’n aros yn y ciw, lle’r oedd dyn yn cael pobol i mewn i’r tacsis mor gyflym ag oedd e’n gallu… gofynnodd e wrthym ni lle oedden ni am fynd, wnaethon ni ddweud y gwesty lle oeddem ni eisiau aros, a dywedodd e’: ‘No way’.”

Cerdded i’r gwesty ger Las Ramblas

Ar ôl ffonio’r gwesty, cafodd y teulu gyfarwyddiadau ar sut i gerdded i’r gwesty, sydd tua 500 medr o Las Ramblas.

“Roedden ni’n gallu gweld yr ambiwlansys lle wnaeth yr ymosodiad ddigwydd, ac roedd yna bobol yn rhedeg gyda bomb jackets.

“Roedd e’n ofnadwy, achos roeddwn ni literally yn yr union le lle roedd popeth yn digwydd.

“Roedd y gwesty ar lockdown, felly doedden nhw ddim yn gadael i’r cwsmeriaid adael. Roedd popeth yn Barcelona wedi cau, y siopau a’r bwytai.

“Dim ond pan wnaethon ni gyrraedd y gwesty a mynd ar-lein, wnaethon ni weld beth yn union wnaeth ddigwydd.”

Dywed Mary Grice Woods bod hi a’i theulu yn teimlo’n “lwcus” o fod wedi osgoi’r lladdfa, yn enwedig gan eu bod wedi bwriadu cyrraedd canol y ddinas ar yr union adeg pan gafodd y bobol eu lladd.

“Os byddai ein flight ni wedi bod yn gynharach, buasai’r bws yna wedi dropio ni bant reit ar y stryd lle’r oedd e wedi digwydd. Felly, roedden ni jyst yn meddwl mor lwcus oeddem ni bod ein hawyren yn hwyr yn cyrraedd.”

“Tawelwch” Barcelona y bore wedyn

“Ar hyn o bryd, dw i’n edrych i lawr ar y stryd o’r gwesty. Mae yna tape o gwmpas, mae heddlu yna, ac mae jyst yn sioc bod ni mor agos i ddigwyddiad mor horrendous.

“Mae Barcelona yn dawel iawn bore yma, mae’r siopau i gyd ar glo ac mae jyst mor drist.”