Mae newyddiadurwyr BBC Cymru wedi anfon llythyr o gŵyn at eu Cyfarwyddwr, Rhodri Talfan Davies, wedi iddyn nhw gael eu siomi gan ymateb Cymru i bennod ddiweddar o Newsnight.

Fe ddarlledwyd y rhaglen ddydd Mercher yr wythnos ddiwethaf (Awst 9) lle bu gwesteion di-Gymraeg yn trafod “a ydi’r Gymraeg o help neu’n hindrans i’r genedl”.

Mae’r rhifyn wedi denu ymateb chwyrn am y ffordd y cafodd yr iaith ei phortreadu, ac mae nifer o ffigyrau o fyd gwleidyddiaeth a Chomisiynydd Heddlu wedi dweud eu dweud.

Y llythyr

Nid cwyn yn erbyn y rhaglen ydi’r llythyr sydd wedi’i arwyddo gan nifer o enwau adnabyddus, ond cwyn benodol am y ffaith nad ydi ymateb BBC Cymru fel rhanbarth i’r bennod ddim wedi bod yn ddigon cryf.

Mae golwg360 wedi siarad â mwy nag un o newyddiadurwyr y BBC ym Mangor a Chaerdydd – er nad oedden nhw’n fodlon siarad ar y record – ac wedi derbyn cadarnhad fod y llythyr wedi’i anfon.

Fe gysylltodd golwg 360 hefyd â swyddfa Rhodri Talfan Davies, a chael gwybod ei fod ar ei wyliau. Yna, pan ofynnwyd i swyddfa’r wasg y BBC yng Nghaerdydd am ymateb i’r stori, doedd neb yn barod i gadarnhau na gwrthod fod y llythyr wedi’i dderbyn gan Gyfarwyddwr BBC Cymru.