Fe wnaeth mwy na chwarter ymgeiswyr Safon Uwch ennill gradd A neu’n uwch eleni, gyda’r nifer sy’n ennill y canlyniadau uwch yn cynyddu am y tro cyntaf mewn chwe blynedd.

Mae ffigurau ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dangos bod 26.3% o geisiadau arholiadau Safon Uwch wedi cael A* neu A yr haf hwn – cynnydd o 0.5% ers y llynedd a’r tro cyntaf iddo gynyddu ers 2011.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod y nifer wnaeth pasio gyda gradd A*-E wedi disgyn 0.2% i 97.9%. ond fe wnaeth y nifer sy’n ennill y canlyniad uchaf – A* – gynyddu 0.2% i 8.3%.

Cyfran uchaf yng Nghymru ers 2009

Yng Nghymru, enillodd 75.3% raddau A* i C, y gyfran uchaf er 2009, ac enillodd 25% raddau A*-A. 

Mewn Mathemateg, perfformiodd Cymru yn well na Lloegr ar raddau A* ac A*-C, wrth i 19.4% ennill gradd A*, ac 80.4% ennill graddau A* i C.

Cynnydd mewn cyfrifiadura

Er bod llai o fyfyrwyr yn sefyll eu harholiadau eleni, bu cynnydd o 33% yn nifer y ceisiadau mewn cyfrifiadura o gymharu â’r llynedd.

Roedd hyn yn cynnwys cynnydd o 34% ymhlith myfyrwyr benywaidd, gyda 816 yn sefyll arholiad yn y pwnc o gymharu â 609 yn 2016.

Bu cynnydd o 12.8% yn y nifer sy’n astudio astudiaethau gwleidyddol a 1.7% yn fwy yn sefyll Sbaeneg Lefel A.

 

Bu ieithoedd eraill yn llai poblogaidd – 2.1% o ostyngiad yn y sawl oedd yn sefyll arholiad Ffrangeg a 4.7% yn llai yn astudio Almaeneg.

 

Bu gostyngiad o 8.1% yn y nifer a wnaeth sefyll Lefel A hanes – un o’r pynciau mwyaf poblogaidd ymhlith y chweched dosbarth.

 

Mae nifer y disgyblion sy’n dewis astudio mewn prifysgolion wedi lleihau ac mae’n debyg bod miloedd o leoedd gwag mewn prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig.