Fe fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £500,000 ychwanegol y flwyddyn i wella’r gofal y mae pobol ifanc ag anhwylderau bwyta yn ei dderbyn wrth droi’n 18 oed.

Nod yr arian yw cynorthwyo pobol ifanc a’u teuluoedd wrth drosglwyddo o ofal Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) i Wasanaethau Oedolion ar gyfer trin anhwylderau bwyta.

Bydd y cyllid yn ei gwneud yn bosib recriwtio staff arbenigol newydd, yn cefnogi gwell hyfforddiant i staff presennol, ac yn cynorthwyo sefydlu amryw o raglenni therapi.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi £1.25m y flwyddyn mewn gwasanaethau trin anhwylderau bwyta ehangach i blant ac oedolion ledled Cymru.

Ymrwymiad llwyr

“Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi pobl ifanc ac oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylderau bwyta,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Bydd y cyllid ychwanegol sy’n cael ei gyhoeddi gen i heddiw yn helpu i sicrhau nad yw’r gwasanaethau a’r driniaeth y mae pobl ifanc a’u teuluoedd yn eu derbyn yn newid wrth iddynt drosglwyddo o ofal CAMHS i’r gwasanaethau i oedolion.”