)
Mae Cymraes sy’n un o newyddiadurwyr y
Guardian wedi cadarnhau iddi hithau wrthod gwahoddiad i fynd ar raglen Newsnight i drafod yr iaith Gymraeg.

Mewn neges ar ei chyfrif Twitter mae Rhiannon Cosslett yn sôn am y rhaglen oedd yn holi a ydi’r Gymraeg yn ‘help neu’n hindrans i’r genedl’, gan alw’r eitem yn un “warthus”.

Dywedodd mewn neges ar Awst 13 ei bod yn “falch” iddi wrthod mynd ar y rhaglen.

Ychwanegodd wrth golwg360 nad oedd hi’n credu y dylai fod yn bwnc i ddadlau yn ei gylch.

“Pam y dylai unrhyw genedl orfod gyfiawnhau bodolaeth eu hiaith?” meddai.

Mae BBC Newsnight wedi dod o dan y lach am yr eitem ddydd Mercher diwethaf (Awst 6) , ac mae mwy na 7,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn y cyfamser yn galw am adolygiad annibynnol o sut mae’r BBC yn portreadu’r iaith Gymraeg.

Mewn datganiad yr wythnos diwethaf mae’r BBC yn mynnu yr oedd “gwahanol safbwyntiau” wedi eu cynnwys, ond yn nodi bod “yn ddrwg ganddyn nhw” nad oedd y “dadansoddiad a’r ddadl yn fwy trylwyr”.