Neidr Abertawe (Llun: RSPCA Cymru)
Mae RSPCA Cymru yn rhybuddio pobol sy’n cadw nadroedd ac ymlusgiaid eraill i’w cadw’n ddiogel wedi i neidr fynd ar ffo yn ardal Abertawe.

Cafodd y neidr anwes ei gweld ar silff ffenest aelod o’r cyhoedd ar Stryd Bedford, Treforys yn gynharach y mis hwn.

Fe lwyddodd yr elusen i ddod o hyd i’r neidr wedi hynny lle mae’n parhau yn eu gofal, ac maen nhw’n galw ar y perchnogion gwreiddiol i’w hawlio’n ôl.

‘Cynnydd mewn achosion’

Yn ôl yr elusen, mae mwy o bobol yn cadw ymlusgiaid yn anifeiliaid anwes erbyn hyn, ac maen nhw wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o’r ymlusgiaid yn mynd ar goll.

“Maen nhw’n gwbwl ddibynnol ar eu perchnogion i ddarparu’r amgylchedd cywir ar gyfer y rhywogaeth hwn gan gynnwys gwres a golau, felly roedd hi’n ffodus iawn fod y neidr wedi’i chanfod,” meddai llefarydd ar ran RSPCA Cymru.

“Mae’n holl bwysig fod unrhyw un sy’n cadw nadroedd yn sicrhau’r amgylchedd a’r amodau cywir a diogel, er mwyn atal dihangfa ddamweiniol.”

Mae’r elusen yn annog pobol i “ymchwilio” cyn prynu a dechrau cadw anifail anwes.