Ddydd Sul, roedd y wefan hon yn adrodd fel yr oedd rhai o drigolion pentref Y Ffôr wedi penderfynu dathlu buddugoliaeth prifardd y Gadair ym Môn trwy addurno ffens ar ymyl y ffordd.

Magwyd Osian Rhys Jones ar gyrion y pentref ger Pwllheli.

Heddiw, fe ddaeth i’r amlwg fod pentref Y Felinheli wedi newid ei enw er mwyn dathlu buddugoliaeth prifardd y Goron.

Ar arwydd hôm-mêd gyferbyn â’r cae pêl-droed, mae’r gair cyfansawdd newydd, ‘Felinhallam’ sy’n anrhydeddu Gwion Hallam.