Mae Cyngor Tref Llanrwst wedi estyn gwahoddiad i’r Eisteddfod Genedlaethol i’r dref yn 2019.

Fe fydd prifwyl y flwyddyn honno’n cael ei chynnal yn rhywle o fewn sir Conwy, ac mae sawl safle’n cael eu hystyried gan yr Eisteddfod ar hyn o bryd.

Mewn llythyr at Brif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, mae cyngor y dref yn pwysleisio manteision Llanrwst o gymharu â safleoedd eraill posibl ar arfordir y sir.

“Ni ellir cael lle gwell i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2019 na Llanrwst, lle pwysig yn hanesyddol, diwylliannol ac economaidd,” meddai clerc y dref, Ross Morgan, yn y llythyr.

“Mae pobol leol yn dal i siarad gydag atgofion gwych o’r Eisteddfodau Cenedlaethol a gynhaliwyd yma yn Llanrwst yn 1951 a 1989.

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â rhan arfordirol Conwy ers 1989. Mae’n bron i 30 mlynedd ers eich ymweliad diwethaf â Llanrwst – ac mae’n bryd iddi ddychwelyd.”