Aled Roberts, Melbourne (Llun Golwg360)
Mae mudiad y Cymry ar wasgar, Cymru’r Byd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfrifoldeb ar un o weinidogion y Cabinet i fod yn gyfrifol am ddatblygu cynllun i dynnu’r cyfan at ei gilydd a defnyddio eu potensial er lles Cymru.

Ar ôl cyfarfodydd ar faes yr Eisteddfod, fe fyddan nhw’n ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i ofyn iddo weithredu ac i gynnig cefnogaeth i’r ymdrech i greu rhwydwaith o gymdeithasau Cymreig ar draws y byd.

Roedd rhai cwmnïau masnachol, cynrychiolwyr cymdeithasau cyn-fyfyrwyr a
o’r cymdeithasau tramor mewn cyfarfod y bore yma pan gafodd y syniad ei drafod, a hynny’n rhannol yn dilyn araith gan yr AC lleol, Rhun ap Iorwerth yng Nghyfarfod Blynyddol Cymru a’r Byd ddoe.

Cyfleoedd

Yn ôl un o’r ysgogwyr, Aled Roberts o Gymdeithas Gymraeg Melbourne yn Awstralia, fe fyddai rhwydwaith yn gallu tynnu gwahanol gronfeydd data at ei gilydd ar yr un llwyfan, yn hyrwyddo’r gwaith o ddysgu’r Gymraeg ac yn denu Cymry tramor i fuddsoddi.

Roedd yna gyfleoedd masnachol i gwmnïau o Gymru hefyd, meddai, gydag amcangyfri bod miliynau o bobol o dras Cytmreig ar hyd a lled y byd a hyd at 25,000 wedi cofrestru gyda’r wefan dysgu Cymraeg saysomethinginwelsh.