Joe Allen (Llun Golwg360)
Methu wnaeth cais cynta’ Abertawe i ddenu eu cyn-ffefryn Joe Allen yn ôl i Stadiwm Liberty.

Roedd clwb Stoke City, dan reolaeth y Cymro Mark Hughes, wedi dweud yn bendant nad oedd y chwaraewr canol cae ar werth.

Ef fyddai’r dewis perffaith i lawer o bobol wrth i Abertawe baratoi i orfod gwerthu eu chwaraewr gorau Gylfi Sigurdsson i Everton.

Does dim gwybodaeth eto faint o arian yr oedd Abertawe’n ei gynnig am Joe Allen, sydd hefyd yn un o chwaraewyr allweddol Cymru ac a oedd  yn rhan o lwyddiant cynnar y clwb yn yr Uwch Gynghrair.

Llorente – mewn, a mas

Roedd yna newyddion da a drwg arall i gefnogwyr yr Elyrch – fydd prif sgoriwr y llynedd Fernando Llorente, ddim yn gadael, yn ôl y rheolwr Paul Clement.

Ond fydd y blaenwr o Sbaen ddim ar gael yn y gêm gynta’ yn erbyn Southampton fory ar ôl torri ei fraich mewn damwain feicio tros y gwyliau.