Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw y bydd tair drama newydd yn cael eu darlledu rhwng hyn a’r flwyddyn newydd – gyda’r tair yn ymwneud â throsedd.

Er hyn mae Comisiynydd Cynnwys Drama S4C yn nodi bod “elfennau gwahanol  o drosedd ynddyn nhw” gydag un wedi’i lleoli ym Mhort Talbot, un arall yn Sir Gaerfyrddin a’r drydedd yn Eryri.

Ag yntau’n gyn-gynhyrchydd Y Gwyll, dywedodd Gethin Scourfield fod cyfresi trosedd yn “boblogaidd gyda chynulleidfa ym mhob gwlad.”

Rhyngwladol

Y gyntaf i gael ei darlledu bydd Bang ym mis Medi gyda’r actorion Jacob Ifan a Catrin Stewart yn serennu ynddi.

Fe fydd Un Bore Mercher yn dilyn wedyn ym mis Tachwedd ac yna Craith yn y flwyddyn newydd. Bydd fersiynau o’r ddwy hynny’n cael eu darlledu’n ddiweddarach yn Saesneg ar BBC One.

Ac wrth esbonio apêl drama Y Gwyll dywedodd Gethin Scourfield – “ y cyngor gawson ni [adeg Y Gwyll] oedd os ydych chi eisiau gwerthu cyfresi yn rhyngwladol crëwch gyfres trosedd. Maen nhw’n gwerthu,” meddai gan gyfeirio at gyfres The Killing.

“Mae’r cyfresi trosedd yn boblogaidd gyda chynulleidfa yng Nghymru hefyd ac mi fydd y rhain yn darlunio bywyd ymhob cwr o’r wlad,” meddai.

Fe fydd dosbarthwyr byd-eang yn gyfrifol am werthu’r tair cyfres yn unigol, sef All3Media International, APC a Banijay Rights.

Ac yn ôl Gethin Scourfield – “os fedrwch chi werthu yn rhyngwladol mi fydd mwy o gyllideb i greu safonau cynhyrchu uwch a sgriptiau mwy uchelgeisiol yma yng Nghymru.”

Y dramâu

Ar faes y brifwyl heddiw, esboniodd yr actores Hannah Daniel fydd yn perfformio yn Un Bore Mercher fod y ddrama dditectif yn rhoi pwyslais ar bortreadu merched.

Bydd Jacob Ifan, sy’n adnabyddus o’r gyfres Cuffs, yn serennu yn Bang ac esboniodd fod ei gymeriad yn “ŵr ifanc diymhongar a thawel” sy’n mynd i drafferthion wrth feddu ar ddryll.

Ac fe fydd Lois Meleri Jones yn portreadu merch o’r enw ‘Lowri’ sy’n nyrs mewn cymuned wledig yng ngogledd Cymru ac sy’n disgyn i’r “lle anghywir ar yr amser anghywir.”