Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi galw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu’r doll ar hedfan sydd wedi gwneud i gwmni Flybe roi’r gorau i’r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Llundain.

Yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi ym Mae Caerdydd, y dreth ar deithiau byrion sy’n gyfrifol am benderfyniad y cwmni i ddod â’r gwasanaeth i ben.

“Bydd yn siomedig gweld diwedd y gwasanaeth hwn, sydd wedi darparu cyswllt cyflym a chyfleus rhwng meysydd awyr Caerdydd a Dinas Llundain am y flwyddyn ddiwethaf,” meddai Ken Skates.

“Mae Flybe a Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn glir mai un rheswm dros ganslo’r gwasanaeth hwn yw effaith Dyletswydd Teithwyr Awyr Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar deithiau byr.

“Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU am amser helaeth i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru, ond mae ein galwadau yn parhau i gael eu hanwybyddu.”

Mae canslo’r gwasanaeth hwn, meddai wedyn, ynghyd â thorri’r addewid i drydaneiddio’r brif linell reilffordd i Abertawe, yn enghreifftiau o sut y mae San Steffan yn “cyfyngu ar dwf economaidd yng Nghymru”.

“Hoffwn alw unwaith eto ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru ac i drosglwyddo’r £700m a arbedwyd drwy ei phenderfyniad i beidio â thrydaneiddio’r brif linell i Abertawe i Lywodraeth Cymru,” meddai Ken Skates.

“Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu ein cynlluniau i ddarparu’r gwasanaethau trafnidiaeth mae teithwyr yng Nghymru yn eu haeddu.”