Mae enw stadiwm Parc Eirias ym Mae Colwyn wedi’i newid i ‘Stadiwm Zip World’.

‘Zip World’ ydi brand y weiren wib yn hen Chwarel y Penrhyn, Bethesda, ynghyd â chanolfannau antur eraill sydd wedi dod yn boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf ac sy’n denu miloedd o ymwelwyr i ogledd Cymru.

Cafodd y stadiwm ei datblygu yn 2011, pan symudodd tîm Rygbi Gogledd Cymru yno, gan ddisgwyl y byddai’r tîm yn ymuno ag Uwch Gynghrair Cymru, ac wedyn â’r rhanbarthau eraill yn y PRO12.

Cyn datblygu’r stadiwm, fe fu’n gartref i dîm pêl-droed Bae Colwyn, ond mae bellach mae nifer o gemau rygbi rhyngwladol yn cael eu cynnal yno.

Ers 2012, mae’r stadiwm yn gartref i ŵyl ‘Access All Eirias’ bob mis Mehefin, ac mae wedi denu sêr y byd cerddoriaeth, gan gynnwys Olly Murs, Pixie Lott, Little Mix a’r ddau Gymro Syr Tom Jones a Rhydian Roberts.