Mae cwest i farwolaeth gwraig 87 oed yng Nghaernarfon, yn dweud iddi gael ei lladd pan gafodd ei tharo gan un o ddrysau archfarchnad Morrisons yn y dref.

Bu farw Nesta Thomas ym mis Chwefror 2016, pan oedd hi’n siopa gyda rhai aelodau ei theulu.

Fe glywodd y cwest gan ei merch, Diane Hughes, sut y caeodd y drysau ar ei mam, gan ei bwrw yn erbyn rhwystr metal ac yna i’r llawr.

Fe wrthododd Nesta Thomas fynd i’r ysbyty mewn ambiwlans, ond wedi iddi fynd adref fe ddaeth yn amlwg ei bod wedi torri ei hasgwrn cefn. Bu farw wyth diwrnod yn ddiweddarach.

Fe gofnododd y cwest ddyfarniad o farwolaeth ddamweiniol.