James Corfield Llun: Heddlu Dyfed Powys
Clywodd cwest heddiw bod corff llanc, aeth ar goll yn ystod y Sioe Fawr yn Llanelwedd, wedi’i ddarganfod yn y dŵr yn Afon Gwy gan ddeifwyr.

Cafodd James Corfield, 19 oed, o Drefaldwyn ei weld y tro diwethaf yn nhafarn y White Horse yn Llanfair ym Muallt yn oriau man bore dydd Mawrth, Gorffennaf 25 yn ystod wythnos y Sioe Fawr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu hysbysu ar ôl iddo fethu a chwrdd â’i deulu ar faes y sioe lle’r oedd wedi bod yn gwersylla gyda ffrindiau. Roedd aelodau o’r cyhoedd a thimau achub mynydd wedi ymuno yn y chwilio amdano.

Cafwyd hyd i gorff y ffermwr ifanc bum diwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd cwest i’w farwolaeth ei agor yn Llys y Crwner yn Aberdâr ddydd Mawrth. Nid yw’r heddlu’n credu bod unrhyw un arall yn gysylltiedig â’i farwolaeth, clywodd y cwest.

Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd ei deulu ei fod yn “fachgen fferm a theulu” ac yn chwaraewr criced talentog.

Cafodd y cwest ei ohirio nes bod gwrandawiad llawn yn cael ei gynnal ar 10 Tachwedd yn Neuadd y Dre yn y Trallwng ym Mhowys.