Elwyn Jones, un o arweinwyr Samariaid Bangor (Llun Golwg360)
Mae’r Samariaidyng Nghymru yn gobeithio gallu cynnig gwasanaeth 24 trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond, mae un arweinydd lleol wedi pwysleisio y bydd angen rhagor o wirfoddolwyr sy’n medru’r iaith er mwyn i’r elusen llinell argyfwng allu cyflawni hynny.

Y gobaith yw cyfuno adnoddau mewn gwahanol fannau ar hyd a lled y wlad, meddai Elwyn Jones, un o arweinwyr y Samariaid ym Mangor.

Dim ond un ganolfan

“Ar hyn o bryd Bangor ydi’r unig ganolfan sy’n gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg a hynny rhwng 7 ac 11 bob nos,” meddai Elwyn Jones yn unedau’r elusen ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae’r Samariaid yn ganolog yn gwneud ymchwil rŵan i ffeindio faint o siaradwyr Cymraeg sydd mewn canolfannau eraill er mwyn cynnig gwasanaeth llawn.”

Y nod fyddai creu canolfan ‘rithiol’ a fyddai’n golygu bod pobol sy’n galw’r llinell Gymraeg yn cael eu cyfeirio at ba bynnag ganolfan ddaearyddol lle byddai gwirfoddolwyr Cymraeg yn gweithio.

‘Hollol bwysig’

“Mae o’n hollol bwysig gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg nid yn unig o ran egwyddor ond er mwyn cynnig gwasanaeth go iawn,” meddai Elwyn Jones. “Dydi pobol mewn argyfwng yn aml ddim yn gallu mynegi eu hunain yn iawn yn Saesneg.

“Hyd yn oed ym Mangor, yn ystod y dydd, mae’n rhaid dweud wrth bobol ffonio’n ôl rhwng 7 ac 11 i gael gwasanaeth Cymraeg, ac wrth gwrs dydyn nhw ddim yn gwneud.”

Ond mae angen rhagor o wirfoddolwyr i sicrhau bod y gwasanaeth yn digwydd, meddai. Roedd yna brinder gwirfoddolwyr mewn rhannau o Gymru, yn arbennig rhai Cymraeg eu hiaith.