Robat Idris o PAWB (Llun: Golwg360)
Eisteddfod “gorfforaethol” dan ddylanwad cwmni ynni niwclear Horizon, yw prifwyl eleni yn ôl ymgyrchydd o Ynys Môn.

Mae cwmni niwclear Horizon – sydd yn gobeithio adeiladu Wylfa Newydd yng ngogledd Môn – yn noddi’r Eisteddfod eleni, a hefyd gyda safle ym mhafiliwn gwybodaeth a thechnoleg yr ŵyl.

Mae Robat Idris o grŵp ymgyrchu Pobol Atal Wylfa B (PAWB), yn pryderu am ddylanwad a “neges” y cwmni, ac yn nodi fod y grŵp yn gwrthwynebu presenoldeb Horizon ar y safle.

Darlun llawn?

“Rydan ni’n gwrthwynebu’r ffaith bod nhw yma o gwbl i ddweud y gwir – er bod hawl gyda nhw wneud,” meddai Robat Idris wrth golwg360. “Rydan ni’n gweld yr Eisteddfod eleni bron iawn yn Eisteddfod gorfforaethol, Horizon niwclear. Yn hytrach na bod yn Eisteddfod Genedlaethol gwerin Cymru.

“Be rydan ni’n gweld hefyd ydy eu bod nhw’n cyflwyno neges yn cynnig rhyw siwgr i’r cyhoedd. Maen nhw’n rhoi gweithgareddau i blant a phobol ifanc i wneud iddyn nhw ymddangos fel cwmni sydd yn hollol ddiniwed.”

“Be dydyn nhw ddim yn dweud wrth gwrs, ydy bod nhw’n mynd i gyflwyno tomen o sbwriel ymbelydrol i’w gadw [ar safle Wylfa B] am dros ganrif, fydd yn berygl i drigolion Ynys Môn a thu hwnt i Ynys Môn am genedlaethau i ddŵad… Dydy’r neges maen nhw’n rhoi ddim yn rhoi’r darlun llawn nac ydy?”

Gorymdeithio

Bydd mudiad PAWB yn cynnal gorymdaith ag ymgyrchwyr o Japan, ar faes yr Eisteddfod ddydd Gwener er mwyn “tynnu sylw pobol mewn ffordd reit liwgar” at broblemau ynni niwclear.

Hefyd mi fydd gweithgareddau yn cael eu cynnal yn y babell heddwch bob diwrnod – gan eithrio ddydd Iau – am 1 o’r gloch.