Geiriau’r prifardd Meirion MacIntyre Huws i’r afon Menai sydd wedi wedi ysbrydoli artist o bentref Bodedern i lunio poster arbennig i nodi ymweliad y brifwyl ag Ynys Mon eleni.

Fe fu Brenda Jones mewn noson farddoniaeth bum mlynedd yn ol yn Nant Gwrtheyrn, lle’r oedd nifer o feirdd yn darllen eu gwaith, a’r gweithiau hynny wedyn yn cael eu gwerthu i godi arian at Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Ac yn yr arwerthiant ar ddiwedd y noson y daeth Brenda Jones yn berchennog ar eiriau dramatig Meirion MacIntyre Huws, yn ei lawysgrifen hynod ei hun.

Y gerdd i’r afon Menai, sy’n gwahanu’r Ynys a’r tir mawr, sydd wedi ysgogi’r darlun trawiadol, ac mae ychydig o’r geiriau allweddol yn ymddangos yn y gwaith.

Mae’r bardd yn gweld o dan y llyfnder, ac yn dychmygu duwch gwely’r afon yn debyg i ambell i gyfnod tywyll mewn bywyd.

Y Fenai, gan Mei Mac

Er bod holl swildod y sêr

hyd dy wyneb llyfn tyner

yn wincian, tithau’n hanes

heno yn gwrido’n y gwres;

ac er dy fod yn briodas

o loer ac o fôr mawr glas,

rwy’n gwybod mai tywod du

a welir ar dy wely.

Ym mynwent dy ro manaf

islaw, o’r golwg, sawl haf

a hydref sgen ti’n pydru?

Islaw’r ddôr i’th seler ddu

sawl llofrudd sgen ti’n cuddio?

Sawl can? Sawl enaid? Sawl co?

Sawl un yn wir sy’n nhir neb

dy gwter? Paid ag ateb.