Mae’r nifer o bobol sy’n gwrando ar Radio Cymru, wedi cynyddu, yn ol yr adroddiad ar orsafoedd radio gwledydd Prydain.

Mae’n dangos hefyd bod cynnydd wedi bod yn y nifer sy’n gwrando ar Radio Wales.

Yn ol ffigurau diweddaraf RAJAR, a gyhoeddwyd ddydd Mercher diwethaf (Awst 2) ac sy’n cyfeirio at y chwarter o ddechrau Ebrill hyd at ddiwedd Mehefin 2017, mae 128,000 yn gwrando ar yr orsaf Gymraeg – cynnydd o nawl mil o’r chwarter blaenorol.

Roedd nifer y gwrandawyr yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn, o Ionawr hyd ddiwedd Mawrth 2017, yn 119,000; a’r chwarter cyn hynny (hyd at ddiwedd Rhagfyr 2016) yn 114,000.

Cynnydd i Radio Wales hefyd

Mae ffigurau diweddaraf RAJAR ar gyfer nifer gwrandawyr Radio Wales yn dangos fod 408,000 yn gwrando – sy’n gynnydd o 35,000 o wrandawyr yr wythnos.

Ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon (Ionawr hyd ddiwedd Mawrth) y ffigur oedd 373,000.

Rhwng Hydref a Rhagfyr 2016, roedd y nifer yn 375,000 – cynnydd o 35,000 o’r ffigwr blaenorol o 340,000 ar gyfer haf 2016.