Mae’r heddlu’n gofyn am dystion i ddamwain farwol yn Rhydaman.

Fe gafodd menyw ei lladd yn y digwyddiad ychydig cyn bedwar brynhawn ddoe.

Roedd hi’n deithiwr mewn car Toyota a fu mewn gwrthdrawiad gyda fan ger cyffordd Pantyffynnon ar Heol Tycroes.

Mae gyrrwr y car yn yr ysbyty ond does dim gwybodaeth am ei gyflwr.