Mark Lloyd (Llun: Wikipedia)
Mae dyn o Bontypridd wnaeth ddringo mynydd Kilimanjaro wrth hawlio ei fod yn anabl er mwyn ennill budd-daliadau, wedi cael ei garcharu.

Roedd Mark Lloyd, 33, hefyd wedi ennill triathlon ac wedi cystadlu yng Ngemau Gaeaf Phoenix wrth dderbyn budd-daliadau rhwng Hydref 2014 a Chwefror 2016.

Dywedodd y cyn-filwr wrth aseswyr budd-daliadau ei fod methu cerdded yn iawn ar ôl dioddef anaf i’w gefn wrth wasanaethu’r fyddin yn Afghanistan.

Derbyniodd cyfanswm o £6,551.80 mewn budd-daliadau a chlywodd y llys fod ei wedi bod yn anonest yn ei geisiadau ar gyfer y taliadau.

Yn dilyn treial yn Llys Ynadon Merthyr, cafwyd yn euog o dwyll a dydd Iau gwnaeth barnwr ei ddedfryd i 20 wythnos o garchar.

“Methu cuddio”

“Gwnaeth Mark Lloyd gymryd mantais o’r sustem er mwyn hawlio miloedd o bunnau mewn budd-daliadau anabledd, tra hefyd yn cymryd rhan mewn heriau corfforol,” meddai Laura Walters o Wasanaeth Erlyn y Goron.

“Gwnaeth Lloyd honni fod ei anghenion yn uwch nag oedden nhw mewn gwirionedd er mwyn hawlio’r arian. Er hynny doedd methu â chuddio rhag y dystiolaeth yn ei erbyn – gan gynnwys llun ohono yn dringo Mynydd Kilimanjaro ac yn cymryd rhan mewn triathlon.”