Mae angen mwy o gyllid ar S4C er mwyn galluogi’r sianel i ddarparu rhagor o gynnwys digidol, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Yn ôl Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, mae angen i S4C “gystadlu am gynulleidfaoedd ar-lein” os ydi hi am oroesi.

Mae adroddiad y pwyllgor yn galw am fwy o gyllideb i’r sianel er mwyn i S4C ehangu ei gyrhaeddiad a chyrraedd cynulleidfaoedd “ar lwyfannau eraill”.

Mae’r adroddiad Tu allan i’r Bocs: Dyfodol S4C hefyd yn nodi bod angen i’r strwythur rheoleiddio a rheoli newid ar gyfer y sianel.

Cystadlu a goroesi

“Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth ar S4C yn canolbwyntio ar ei rôl yn darparu darlledu ar y teledu; ond rydym yn gwybod bod cynulleidfaoedd modern yn defnyddio cynnwys ar eu ffonau ac yn gwylio rhaglenni ar-alw,” meddai Bethan Jenkins, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Ers 2011, mae cyllideb S4C wedi gostwng £20 miliwn; mae hynny heb ystyried chwyddiant.  Os yw S4C yn mynd i oroesi a ffynnu i hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru, rhaid iddo  allu cystadlu am gynulleidfaoedd ar-lein heb gael ei gyfyngu gan gylch gwaith sydd wedi dyddio a chyllideb sy’n crebachu.”

Croesawu’r cyhoeddiad

“Mae S4C yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad heddiw, sy’n dilyn cyfres o wrandawiadau a sesiynau trafod gwerthfawr,” meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.

“Rydym yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am ei ddiddordeb manwl yn yr hyn ddylai gwasanaeth S4C ei ddarparu yn y dyfodol, ac yn y modd mae’n cael ei ariannu. Bydd yr adroddiad yn sicr o fod yn gyfraniad gwerthfawr a phwysig i’r drafodaeth ynglŷn â’r materion hyn fydd yn digwydd yn sgil yr Adolygiad Annibynnol o S4C.”

Tystion aneglur

Bu aelodau grŵp Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor ac maen nhw wedi croesawu ei gasgliadau.

Er hynny maen nhw wedi gwrthwynebu cyfeiriad yn eu hadroddiad at “dystion” aneglur, gan nodi bod ganddyn nhw safiad clir ar ddyfodol cyllid S4C.

“Er ein bod yn croesawu rhai o gasgliadau’r Pwyllgor, cawsom ein synnu o weld yr adroddiad yn datgan bod: ‘tystion wedi bod yn llai eglur ar lefel yr ariannu ychwanegol sydd ei angen’,” meddai Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC.

“Er mwyn gostwng lefel gyfredol cyfradd ailddarllediadau, a sicrhau bod cynnwys gwreiddiol digonol gan y gwasanaeth, mae TAC wedi pwysleisio’n gyson fod gofyn gwneud cynnydd un-tro o 10% i gyfanswm lefel ariannu cyhoeddus S4C (gan DCMS a’r Ffi Drwydded).”