Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod plant dwyieithog yng Nghymru’n dewis darllen llyfrau Saesneg am bleser gartref, ond yn darllen llyfrau Cymraeg yn yr ysgol am fod rhaid iddyn nhw.

Cafodd yr ymchwil ei gomisiynu gan Gyngor Llyfrau Cymru a’i gwblhau gan Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd.

Mae’r ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr ifainc yn cysylltu darllen llyfrau Cymraeg â gwaith ysgol, ac yn dewis darllen llyfrau Saesneg am bleser.

Bydd yr ymchwil, a gafodd ei gynnal ar ffurf holiadur ar-lein a grwpiau ffocws, yn cael ei drafod yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym mhentref Bodedern yr wythnos nesaf.

Yn ymuno â Dr Siwan Rosser ar gyfer y drafodaeth ym mhabell Prifysgol Caerdydd ddydd Gwener (1 o’r gloch) fydd nifer o bobol flaenllaw o’r cyfryngau a’r byd cyhoeddi yng Nghymru.

Byddan nhw’n trafod sut i ennyn diddordeb plant a phobol ifainc mewn llyfrau Cymraeg drwy straeon ar lwyfannau print, digidol a’r cyfryngau.

Bydd y sesiwn yn rhagflas ar gyfer ei Adolygiad o Lyfrau Cymraeg ar gyfer Plant ac Oedolion Ifanc, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Ffactorau cymdeithasol

“Cefais fod y rhan fwyaf yn dewis darllen am bleser yn Saesneg, ac yn cysylltu darllen yn Gymraeg â’r ysgolm” meddai’r Dr Siwan Rosser.

“Wrth ymchwilio ymhellach i’r mater, cefais fod eu profiadau o ddarllen llyfrau Cymraeg yn rhan o’u gwaith ysgol/gwaith cartref yn bennaf, ac nad oedd llyfrau Cymraeg yn rhan weladwy o’u cymuned leol na’u diwylliant ar-lein.

“Mae hyn yn wahanol i lyfrau Saesneg y mae eu teitlau ac awduron yn ymddangos yn rheolaidd mewn siopau ar y stryd fawr, ar y teledu/ffilmiau/radio, ac ar-lein.

“Mae’r drafodaeth hon yn dod ag ymarferwyr a chynhyrchwyr ym maes cyhoeddi a’r cyfryngau a darllenwyr ifanc o Ynys Môn ynghyd i ystyried sut y gellir ennyn diddordeb pobl ifanc mewn darllen a chreadigrwydd ar draws platfformau print, y cyfryngau a phlatfformau digidol.”