Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi cyflogi Jason Evans yn Wicipediwr parhaol cyntaf gwledydd Prydain.

Fe fydd yn gyfrifol am sicrhau bod Wicipedia a gwefannau cysylltiedig yn rhan ganolog o waith y llyfrgell o ddydd i ddydd, gan ddatblygu ar y bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Llyfrgell, Wikimedia UK a’r gymuned Wici.

Mae’r Llyfrgell a Wikimedia UK yn cydweithio ers 2014 i gynnal swydd Wicipediwr Preswyl, gan roi mynediad i ddefnyddwyr i bob math o wybodaeth am Gymru a’i phobol.

Enillodd y Llyfrgell wobr ‘Partneriaeth y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Wicimediwr y Flwyddyn y Deyrnas Gyfunol am eu gwaith dylanwadol a’u gweledigaeth yn gwneud y rôl yn barhaol.

Prosiectau

Mae delweddau o eitemau’r Llyfrgell wedi’u cynnwys mewn erthyglau sydd wedi cael eu gweld mwy na 250 miliwn o weithiau.

Mae Jason Evans hefyd wedi cynnal 20 o ddigwyddiadau cyhoeddus ac wedi dysgu mwy na 100 o bobol i olygu tudalennau Wicipedia er mwyn gwella cynnwys y tudalennau.

Mae’r Llyfrgell hefyd wedi arwain prosiect Wicipop, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sydd wedi creu cannoedd o erthyglau, gyda chwmni Recordiau Sain yn rhannu dros 7,000 o glipiau sain sy’n cyd-fynd â’r erthyglau.

Mae hefyd yn arwain y prosiect Wici-Iechyd dan nawdd Llywodraeth Cymru gyda’r nod o wella pynciau perthnasol i iechyd ar y Wicipedia Cymraeg.

Wicipedia yw’r wefan sy’n cael ei defnyddio fwyaf yn y Gymraeg, gyda chyfartaledd o 800,000 o dudalennau’n cael eu hagor bob mis, ac mae ganddi oddeutu 130 o olygyddion cyson sy’n cael eu hannog gan Jason Evans i fynd ati.

Mae Wicipedia yn un o’r gwyddoniaduron mwyaf mewn unrhyw un o ieithoedd lleiafrifol y byd.

Swydd sy’n “dangos dyhead”

“Er budd Cymru fel cenedl, mae’n hollbwysig fod Wicipedia yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am ein hanes a’n diwylliant, a bod gwybodaeth ar yr ystod ehangaf o bynciau ar gael ar y Wicipedia Cymraeg,” meddai Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell Genedlaethol.

“Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ran allweddol yn y gwaith o roi mynediad i wybodaeth am Gymru a’i phobl, ac mae’r swydd hon yn dangos ein dyhead i gydweithio gydag unigolion a chyrff o fewn i Gymru a thu hwnt wrth gyflawni’r amcan hwn.”