Molly Owens a'i thad Brian Owens Llun: PA
Mae’r chwilio am ferch fach bump oed o Gaergybi wedi dod i ben ar ôl i’w thad ildio i’r awdurdodau.

Dywed Heddlu’r Gogledd bod Molly Owens wedi dychwelyd o Iwerddon i Gaergybi gyda’i thad Brian Owens, 26, nos Lun, 31 Gorffennaf.

Roedd disgwyl i Brian Owens fynd gerbron ynadon yng Nghaernarfon ddydd Gwener ddiwethaf i gael ei ddedfrydu ond fe fethodd ag ymddangos yn y llys.

Nid yw’r heddlu wedi dweud pa droseddau yr oedd wedi’u cyflawni.

Dywedodd yr Arolygydd Nigel Harrison o Heddlu’r Gogledd bod Brian Owens wedi ildio i’r awdurdodau ar ôl dychwelyd i Gaergybi. Fe fydd yn ymddangos yn y llys heddiw.

Mae’r Heddlu wedi diolch i’r cyhoedd a theulu Molly am eu cefnogaeth.