Milwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf Llun:PA
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi derbyn £10,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri heddiw i gynnal ymchwil i’r rhai wnaeth apelio yn erbyn ymuno â’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe fyddan nhw’n canolbwyntio ar ddogfennau tribiwnlysoedd Ceredigion neu ‘Sir Aberteifi’ am fod y rhan fwyaf o gofnodion tribiwnlysoedd eraill Cymru wedi’u dinistrio dan orchymyn y Llywodraeth yn 1921.

Am hynny, mae archif tribiwnlysoedd Sir Aberteifi yn “un hollol unigryw yng Nghymru, ac yn un o’r ychydig o’i math sy’n bodoli yng ngwledydd Prydain,” yn ôl Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

‘Darn pwysig o hanes’

Bydd y prosiect ‘Datgloi Hanes Cuddiedig y Rhyfel Mawr’ yn digideiddio’r dogfennau a thynnu sylw at bobol oedd yn apelio yn erbyn gorfodaeth i fynd i’r Rhyfel oherwydd rhesymau personol, economaidd, moesol neu grefyddol.

 

“Nid yw hanes y rhai wnaeth geisio osgoi mynd i ymladd am ba bynnag reswm wedi cael sylw haeddiannol  gan y rhai sy’n astudio hanes y Rhyfel Byd Cyntaf,” meddai Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

“Drwy haelioni Cronfa Dreftadaeth y Loteri bydd rhan o dreftadaeth guddiedig y rhyfel sy’n cael ei chadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dod yn hygyrch i bobl Cymru a’r byd, yn awr ac i’r dyfodol,” meddai.

“Mae straeon rheiny na fu’n ymladd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes cymdeithasol Prydain, a thrwy ddigideiddio’r unig gofnod sydd yn weddill yng Nghymru gellir sicrhau na fyddwn yn anghofio’r darn pwysig hwn o hanes,” ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.