Bydd cynghorwyr Ynys Môn yn pleidleisio ar gynllun heddiw, a allai arwain at dros 7,000 o dai yn cael eu hadeiladu yno ac yng Ngwynedd dros 15 mlynedd.

Mae cynghorwyr yng Ngwynedd eisoes wedi cymeradwyo’r Cynllun Datblygu Lleol o drwch blewyn.

Yn ystod pleidlais ddydd Gwener, pleidleisiodd 30 o blaid y cynllun a 30 yn erbyn, ond cafodd y cynllun ei basio yn dilyn cefnogaeth gan Gadeirydd Cyngor Gwynedd.

Mae’n rhaid i’r cynllun dderbyn cefnogaeth y ddau gyngor cyn cael ei fabwysiadu.

Bydd y cynllun yn gosod fframwaith ar gyfer maes cynllunio tan 2026.

“Angen ail-feddwl”

Oherwydd bod y cynllun wedi ei basio o drwch blewyn gan Gyngor Gwynedd, mae mudiad Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorwyr i ail-ystyried y polisi.

“Mae’n amlwg o’r bleidlais gyfartal heddiw nad oes digon o gefnogaeth i’r cynllun fel y mae yng Ngwynedd, ac mae angen ail-feddwl,” meddai Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Fyddai hi ddim yn ddemocrataidd, nag yn gall, i gynghorwyr Môn ei basio ddydd Llun, gan nad yw’r cynllun yn un gadarn yn ddemocrataidd erbyn hyn.”

Mae’r mudiad eisoes wedi tynnu sylw at asesiad effaith iaith annibynnol sydd yn awgrymu bydd cwymp 2% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn sgil cyflwyniad y cynllun.