James Corfield (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae’r heddlu sy’n chwilio am James Corfield, 21, yn Llanelwedd wedi dod o hyd i gorff.

Aeth y ffermwr 19 oed o Drefaldwyn ar goll yn ystod ymweliad â’r Sioe Fawr ddydd Llun.

Roedd e wedi bod yn gwersylla gyda ffrindiau, a chafodd ei weld ddiwethaf yn nhafarn y White Horse yn Llanfair-ym-Muallt tua hanner nos, nos Lun diwethaf, 24 Gorffennaf.

Roedd wedi trefnu i gyfarfod ei deulu y diwrnod wedyn a rhoddwyd gwybod i’r heddlu yn fuan wedi 2 y prynhawn ei fod ar goll.

Fe fu Heddlu’r De a Heddlu Dyfnaint a Chernyw yn helpu Heddlu Dyfed-Powys i chwilio amdano.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys nad yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond bod teulu James Corfield wedi cael gwybod, a’u bod nhw’n derbyn cefnogaeth.

Mae tîm achub mynydd Aberhonddu wedi cadarnhau ar Twitter mai corff James Corfield a gafodd ei ddarganfod, a’u bod nhw’n cyhoeddi’r newyddion ar gais yr heddlu.