Gwynoro Jones (Llun: golwg360)
Fe fydd y cyn-Aelod Seneddol Llafur, Gwynoro Jones yn dysgu cwrs newydd o fis Medi ar Gymru, Hunaniaeth, Ystyr a Chenedlaetholdeb 1955 i 1979.

Bydd y cwrs, sy’n dechrau ar Fedi 11, yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg yng nghanolfan Asclepius Therapi ar Heol Walter yn Abertawe.

Man cychwyn y cwrs, sy’n para 10 wythnos, fydd deiseb Senedd i Gymru 1955, gan orffen drwy edrych ar refferendwm aflwyddiannus 1979.

Dysgu’r hanes o safbwynt y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yw diben y cwrs, ac fe fydd yn canolbwyntio ar densiynau o fewn Plaid Cymru yn y cyfnod hwn, ac ofnau’r Blaid Lafur am gynnydd mewn cenedlaetholdeb yng Nghymru. Ymhlith y ffigurau amlwg yn yr hanes mae Gwynfor Evans, Saunders Lewis a George Thomas.

Hwn yw cyfnod buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, a’r frwydr rhwng Gwynfor Evans a Gwynoro Jones ei hun am y sedd ddechrau’r 1970au, yn ogystal â’r ymateb i drychineb Aberfan fis Hydref 1966.

Bydd y cwrs hefyd yn canolbwyntio ar gyfraniadau Aneurin Bevan, Megan Lloyd George, Jim Griffiths, Jim Callaghan, Elystan Morgan a Ray Powell i wleidyddiaeth Cymru.

Ail gwrs yn y gwanwyn

Bydd ail gwrs yn cael ei gynnal yn y gwanwyn, yn edrych ar hanes a hunaniaeth Cymru’r 1980au, a thrydydd cwrs ar Ddatganoli a Brexit.

Dywedodd Cyfarwyddwr Astudiaethau Canolfan Asclepius Abertawe, Dr Martyn Shrewsbury: “Rwy’n nabod Gwynoro Jones ers dros 30 o flynyddoedd.

“Mae e wedi hel at ei gilydd archif sylweddol o fanylion, darnau o’r wasg ac atgofion a fydd yn egluro, yn eich syfrdanu ac yn rhoi sioc i chi.

“Mae Gwynoro, ers tro byd, yn cefnogi hunaniaeth gref i Gymru, wedi’i chefnogi gan Gymru ddatganoledig a phwerus, ac mae e’n gefnogwr brwd o’r ddelfryd Ewropeaidd.”

Pris y cwrs, a fydd yn cael ei gynnal am ddwy awr bob wythnos am 10 wythnos yw £80 (gostyngiad ar gael o £40).

Am ragor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch ar 07592330467 neu squabs@hotmail.co.uk