Andrew 'Tommo' Thomas
Dylai Tommo fod wedi ymddiswyddo o fod yn gyflwynydd ar Radio Cymru, yn ôl cyn-athro sydd wedi denu cryn dipyn o sylw trwy ddweud ei ddweud ar wefan Facebook.

Mewn neges ar Facebook sydd wedi denu ymateb gan dros 50 o bobol – a 48 o’r rheiny yn ‘hoffi’ neu’n cytuno â’i sylwadau – mae Dyfrig Wyn Ellis yn dweud ei fod “wedi’i siomi’n fawr iawn” â phenderfyniad BBC Cymru i roi ail gyfle i’r cyflwynydd.

Ar ôl pythefnos o waharddiad, fe fydd Andrew ‘Tommo’ Thomas yn dychwelyd i’w slot dair awr ar Radio Cymru ddydd Llun nesaf.

“Mae’r BBC yn fwy na Tommo, mae’n fwy na Radio Cymru,” meddai Dyfrig Wyn Ellis wrth golwg360. “Rydan ni’n sôn am gorfforaeth genedlaethol fan hyn.

“Roeddwn i’n falch o glywed bod y BBC wedi gwneud safiad ac wedi ei wahardd o’i raglen. Oedd hynna’n rhywbeth oeddwn i’n gweld calondid ynddo fe.

“Ond wrth gwrs, ges i’n siomi’n fawr iawn wedyn i’w weld yn dychwelyd i’w swydd ddydd Llun, a dim ond iddo ddweud bod yn flin ganddo fe. Dw i ddim yn teimlo bod hynna’n dderbyniol,” meddai.

“Mae’n ymddangos i mi fod penderfyniad wedi cael ei wneud yn gyflym iawn, ac mae’n amheus gen i fod o heb fynd llawer pellach na sgwrs anffurfiol rhwng Tommo a’r Cyfarwyddwr.

“Dw i’n flin iawn bod y BBC ddim wedi gwneud safiad, a bod Tommo ei hun ddim yn ddigon o ddyn, a ddim gyda’r asgwrn cefn, i ymddiswyddo.”

Sylwadau

Cafodd y cyflwynydd ei wahardd o’i rhaglen ar Radio Cymru wedi i’r gorfforaeth dderbyn cwyn am sylwadau ganddo yn ystod Gwyl Nôl a ’Mlân yn Llangrannog ar benwythnos Gorffennaf 7-8. Mae golwg360 wedi adrodd am natur rhai o’r sylwadau hynny, ond mae Dyfrig Wyn Ellis yn dweud fod sylwadau eraill wedi’i siomi hefyd.

Er nad oedd ef ei hun yn yr ŵyl yn Llangrannog ar benwythnos Gorffennaf 7-8, mae’n dweud bod ffrindiau dibynadwy oedd yn bresennol, yn dweud i Tommo gyfeirio at bobol hoyw yn y ‘banter’ rhwng grwpiau cerddorol.

“Mae genna’i fab sydd yn hoyw,” meddai Dyfrig Ellis, “a dw i’n gwybod o brofiad pa mor anodd ydy gwneud y penderfyniad o fod yn gyhoeddus ynglŷn â’r peth. Ac roeddwn i wedi mawr obeithio ein bod ni wedi symud ymlaen fel cymdeithas waraidd…

“Dyw sylwadau homoffobaidd ddim yn rhywbeth y bydden i yn sicr yn dymuno eu clywed yn gyhoeddus mewn unrhyw ŵyl, mewn unrhyw gymdeithas. Felly, dw i yn flin bod y BBC ddim wedi gwneud mwy o safiad.”

Datganiad y BBC

Wrth gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon y byddai Tommo yn dychwelyd i’r tonfeddi ddydd Llun, Gorffennaf 28, dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Yn dilyn ymchwiliad mewnol, mae Tommo wedi ysgrifennu at drefnwyr Gŵyl Nôl a ’Mlân i ymddiheuro yn ddiamod am yr hyn a ddywedodd tra’n cyflwyno.

“Mae’r BBC yn cymryd cwynion fel hyn o ddifrif ac wedi cymryd camau priodol yn dilyn yr ymchwiliad.”