Jack Keene (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae teulu wedi talu teyrnged i lanc fu farw mewn damwain ffordd ger Capel Curig ddydd Iau (Gorffennaf 27).

Bu farw Jack Keene, 17, o Swydd Hertford yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4086 rhwng Gwesty Penygwryd a Chapel Curig toc cyn 7yb.

Fe gafodd dynes 18 oed ei lladd yn y fan a’r lle, a chafodd pedwar o bobol eraill ag anafiadau llai difrifol eu cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

“Teyrngar a thrugarog”

“Yr oedd Jack, ac mi fydd am byth, yn oleuni ac yn gariad yn ein bywydau,” meddai’r teulu mewn datganiad. “Roedd yn gariadus, yn garedig, yn anhunanol ac yn cyffwrdd bywydau pawb yr oedd yn ei gyfarfod.

“Roedd ganddo dalent yn myd chwaraeon. Roedd o’n deyrngar ac yn drugarog. Roedd presenoldeb a chyfaredd Jack yn gallu goleuo ystafell, Nid yw goleuni Jack wedi diffodd, dim ond symud lleoliad.”

Mae’r heddlu’n apelio am dystion ac yn  awyddus i siarad â gyrrwr neu deithwyr cerbyd pic-yp arian neu lwyd wnaeth yrru heibio i un o’r cerbydau cyn y gwrthdrawiad.