Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhybuddio cynghorwyr Gwynedd y bydd y rheiny sy’n pleidleisio o blaid cynllun i adeiladu 8,000 o dai newydd yn y ddwy sir yn gyfrifol am ostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg.

Mae’r grŵp ymgyrchu yn gwrthwynebu Cynllun Datblygu Gwynedd-Môn, ac fe fydd cynghorwyr Gwynedd yn pleidleisio arno ddydd Gwener yr wythnos hon (Gorffennaf 28).

Fe fydd y cynllun yn golygu adeiladu dros 400 o dai yng Nghaernarfon a bron i 1,000 o dai ym Mangor dros y pymtheg mlynedd nesaf, a hynny’n ychwanegol i’r 366 o dai newydd sy’n cael eu cynllunio ar gyfer Pen-y-ffridd ym Mangor eisoes.

Ond yn ôl asesiad effaith iaith annibynnol a wnaed ym mis Mawrth eleni, fe fydd cwymp o 2% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg pe tai’r cynllun yn mynd yn ei flaen fel y mae ar hyn o bryd.

Annog cynghorwyr i “ddal eu tir”Mae Menna Machraeth, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi cyhuddo swyddogion ac arweinwyr y cyngor o “ddal gwn i bennau cynghorwyr” wrth roi sêl bendith i’r fath gynllun a gyda hyn, mae’n “erfyn” ar gynghorwyr i “sefyll lan dros y Gymraeg” trwy ei wrthod.

“Dim ond gelyn i’r iaith fyddai’n pleidleisio dros gynllun a fyddai, yn ôl asesiad annibynnol, yn arwain yn uniongyrchol at ddirywiad yn y Gymraeg yn y ddwy sir.”

“Yn sicr mae hynny’n bris rhy uchel i’w dalu er mwyn plesio’r awdurdodau yng Nghaerdydd.”