Fe allai safonau lles anifeiliaid gael eu tanseilio os yw cytundebau wedi  Brexit yn golygu bod ffermwyr yn cystadlu yn erbyn gwledydd eraill sydd ddim yn cael eu rheoleiddio mor gaeth.

Daw’r rhybudd gan bwyllgor trawsbleidiol Tŷ’r Arglwyddi. Maen nhw’n dweud y gall ymdrech y Llywodraeth i sicrhau cytundebau masnach ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd olygu bod cynhyrchwyr ym Mhrydain yn cael eu gorfodi i dorri costau.

Daeth sylwadau’r pwyllgor ar ôl i’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Liam Fox fod ynghanol dadl ynglŷn â chaniatáu dofednod sydd wedi’u golchi mewn clorin gael eu gwerthu ym Mhrydain o dan gytundeb yn sgil Brexit, wrth iddo gynnal trafodaethau economaidd yn Washington.

Mae adroddiad y Pwyllgor Ynni ac Amgylchedd yn dweud bod eu tystiolaeth yn “awgrymu’n gryf y daw’r bygythiad mwyaf i safonau lles anifeiliaid fferm yn sgil Brexit o ganlyniad i ffermwyr y DU yn cystadlu yn erbyn bwyd rhad sydd wedi’i allforio o wledydd sydd â safonau cynhyrchu is na’r DU.”

Oni bai bod cwsmeriaid yn fodlon talu prisiau uwch am gynnyrch sydd â safonau lles uwch, fe allai ffermwyr yn y Deyrnas Unedig a safonau lles ddod dan bwysau, meddai’r adroddiad.

Mae hefyd yn rhybuddio y dylai’r Llywodraeth “fod yn ymwybodol o’r heriau o’i blaen a gweithredu’n briodol.”