Mae dyn 20 oed wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar draffordd yr M4 bore ma ger Caerdydd.

Bu’n rhaid cau un lon o’r draffordd am rai oriau ger Cyffordd 32 ar ôl y gwrthdrawiad tua 7.30 bore dydd Llun, gan arwain at oedi hir i deithwyr.

Mae’n debyg nad yw’r dyn wedi cael anafiadau sy’n bygwth ei fywyd.

Cafodd y ffordd ei chlirio erbyn 9.15yb, meddai Heddlu De Cymru.