Mae trefnwyr Parti Ponty wedi galw’r digwyddiad yn “llwyddiant ysgubol” ar ôl i bron i 10,000 fynd i’r ŵyl eleni.

Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn dweud y daeth pobol o bob oed ac iaith i Barc Ynys Angharad ym Mhontypridd ar 15 Gorffennaf i’r ŵyl flynyddol.

“Roedd y cae yn fwrlwm o bobl yn mwynhau, creu, chwerthin a siarad,” meddai Einir Siôn, Prif Weithredwraig y Fenter.

“Roedd safon yr holl arlwy, y perfformiadau, gweithdai, bwyd, diod a stondinau, yn anhygoel. Roedd yna deimlad o wir ddathlu’r Gymraeg a Chymreictod Rhondda Cynon Taf.”

Y band lleol, Chroma, a chwaraeodd yn Gymraeg am y tro cyntaf ym Mharti Ponty yn 2015, wnaeth gloi’r diwrnod, yn syth ar ôl Geraint Jarman.

“Mae’n anhygoel gweld sut mae’r ŵyl wedi tyfu ers y gig cynta’ gyda bar ac amrywiaeth o stondinau bwyd,” meddai band.

“Oherwydd rydyn ni’n fand o Gwm Cynon mae Parti Ponti yn ŵyl sy’n agos i’n calonnau, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ware rhywbryd eto yn y dyfodol.”

Datblygu’r ŵyl ‘unigryw’

Dywed y trefnwyr mai’r bwriad yw parhau i ddatblygu’r ŵyl ond maen nhw’n benderfynol o’i chadw’n unigryw i Bontypridd.

“Gŵyl Gymraeg i bawb yw hon ac er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i’w pherchnogi, mae’r Fenter yn ei datblygu yn unol â mewnbwn y cyhoedd,” meddai Einir Siôn, wrth apelio at bobol i lenwi holiadur ar gyfer yr ŵyl y flwyddyn nesa’.

“Nid clôn o wyliau eraill fydd hon ond un sy’n adlewyrchu anghenion lleol a’ch syniadau chi… fel ewch amdani, rhowch sialens i ni!”