Stuart Cole
Mae arbenigwr ar drafnidiaeth wedi dweud wrth golwg360 bod y penderfyniad i beidio â thrydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe yn ymwneud â blaenoriaethu dinasoedd yn Lloegr dros Gymru.

Yn ôl Stuart Cole, penderfynodd yr Ysgrifennydd ar Drafnidiaeth, Chris Grayling, i beidio parhau â’r cynllun i’r gorllewin o Gaerdydd am fod mwy o bobol yn byw mewn dinasoedd yn Lloegr.

“Mae mwy o flaenoriaeth ganddo [Chris Grayling] ar wasanaethau yn Lloegr, lle mae llwyth o bobol yn byw,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni fod yn ymarferol, mae lot fwy o bobol yn byw ym Manceinion, ym Mirmingham. Dw i ddim yn hapus gyda fe ond dw i’n deall o le mae’n dod.”

‘Diffyg dealltwriaeth’ o Gymru

Dywed Stuart Cole ei fod yn “siomedig” gyda’r cyhoeddiad dydd Iau na fydd y prosiect i drydaneiddio rheilffyrdd yn ymestyn i Abertawe, ond doedd ddim yn syndod iddo.

“Mae’r adran drafnidiaeth yn Llundain, dydyn nhw ddim yn deall Cymru  i ddechrau, dydyn nhw ddim yn deall trafnidiaeth yng Nghymru,” ychwanegodd.

“Dydyn nhw ddim yn deall devolution, mae’r adran drafnidiaeth yn yr Alban yn cael arian i fuddsoddi mewn rheilffyrdd drwy’r block grant, dyw Cymru ddim.”

Fe gyhuddodd Llywodraeth Cymru y Llywodraeth Brydeinig o dorri ei haddewidion i bobol Cymru pan ddaeth hi i’r amlwg na fyddan nhw’n trydaneiddio’r rheilffyrdd ar ôl Caerdydd.

Ond mae Chris Grayling wedi mynnu y bydd pobol i’r gorllewin o’r brif ddinas yn cael budd o’r prosiect.