Gai Toms ar glawr Golwg
Bydd Gai Toms yn lansio ei seithfed casgliad o gerddoriaeth yn Sesiwn Fawr Dolgellau y penwythnos hwn.

Yn ogystal â’i waith solo dan ei enw ei hun a’r enw Mim Twm Llai, mae Gai Toms hefyd yn adnabyddus am chwarae’r gitâr yn y bandiau Anweledig a Brython Shag.

Er mai traciau yn trafod sefyllfa’r Cymry a’r byd sydd ohoni yw’r rhan fwyaf o gynnwys ei albym ddiweddara’, Gwalia, mae yna ambell gân chwareus hefyd.

Mae ‘Tafod’ yn ddeuawd hamddenol rhwng y canwr o Flaenau Ffestiniog a’r gantores a’r gyflwynwraig Lisa Angharad, un o dair chwaer sy’n canu acapela dan yr enw Sorela.

Dyma un o ganeuon mwya’ awgrymog Gai Toms:

‘Llyfu, glychu

Cusanu, blasu

Yw e’n flasus, yn felys, yn hoffus, ti’n farus?

Tafod, defnyddia dy dafod…’

“Dw i wedi cael ambell un yn dweud mai ‘Tafod’ ydy cân orau’r albym,” meddai Gai Toms.

“Os oeddwn i’n gwneud albym o’r enw Gwalia roeddwn i’n gorfod sôn am iaith, a beth rydan ni angen i siarad ydy tafod ynde.

“Ac roeddwn i eisiau gwneud cân serch, cân gariad i’r tafod… a wnaeth o gymryd trywydd ei hun!

“Ac roeddwn i’n meddwl: ‘Ella i ddim canu hon fy hun, rhaid i fi gael duet… ond pwy fasa’n gwneud y ffasiwn beth?!’”

Mae’r ddeuawd rhwng Gai Toms a Lisa Angharad wedi ei dylanwadu gan ddeuawd rywiol enwog o’r 1960au – ‘Je T’aime’.

“Dw i fel pioden, yn dwyn ambell i beth i greu caneuon,” meddai Gai Toms, “ac mae ‘Tafod’ yn rhyw fath o steil Parisienne, ryw deimlad ‘Je T’aime’ Serge Gainsbourg a Brigitte Bardot.”

Fel monster hit horni Serge Gainsbourg, mae ‘Tafod’ yn fwriadol bryfoclyd.

“Mae hi yn gân secsi,” cytuna Gai Toms, “ac mae hi i fod yn gân secsi. Rydan ni’n genedl secsi.”

Mae 100 o gopïau o’r albym ar gael ar finyl drwy wefan Sbensh.com a bydd Gai Toms yn lansio Gwalia gyda pherfformiad byw ar lwyfan tafarn y Ship yn Sesiwn Fawr Dolgellau am ddau b’nawn Sul yma.

A lot mwy gan Gai yn rhifyn wsos yma o Golwg