Mae perchnogion newydd tafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd wedi ymrwymo i gynnal “cyswllt diwylliannol” y dafarn boblogaidd sydd ar gyrion Gerddi Soffia.

Ddoe, fe ddatgelodd golwg360 fod y Mochyn Du am gael ei werthu i’r cwmni cadwyn o Loegr, Brewhouse & Kitchen, gyda ffynhonnell yn mynegi pryder am yr effaith y gallai hynny ei gael ar Gymreictod y lle.

Ond mae Prif Swyddog Gweithredol y cwmni, Kris Gumbrell sy’n dod o Gaerdydd, wedi cadarnhau y byddan nhw’n sicrhau bod eu “harwyddion, cyhoeddiadau printiedig a’n gwefan i gyd yn ddwyieithog.”

“Ac eithrio ei lleoliad, un o rinweddau arbennig y busnes yw ei fod yn dafarn dwyieithog,” meddai am y dafarn a fu dan berchnogaeth Gareth Huws a Philip Snook.

‘Safon uchel’

Y Mochyn Du fydd tafarn cyntaf Brewhouse & Kitchen yng Nghymru tra bod ganddyn nhw 17 o dafarndai ar hyd a lled Lloegr gan gynnwys Bryste, Caer, Nottingham, Islington, Portsmouth a Southampton.

“Rydyn ni wedi bod yn edrych ar Gaerdydd am flynyddoedd lawer ac mae’n anodd dod o hyd i eiddo rhyddfraint o safon uchel yn y ddinas hon,” meddai Kris Gumbrell.

“Fel Cymro, rydw i’n edrych ymlaen at gyflwyno’r hyn a wnawn i’r farchnad fywiog ac unigryw hon; yn ogystal â bragu mwy o gwrw unigryw, byddwn yn anelu at gydweithio gyda rhai o fragwyr crefft lleol gwych sydd yn ardal y De,” meddai wedyn.