Mae dyn o Forgannwg wedi lambastio’r cyflwynydd radio Jeremy Vine ar ei raglen ei hun, ar ôl y cyhoeddiad ei fod yn ennill cyflog o fwy na £700,000.

Ffoniodd Harry Jones y rhaglen ar Radio 2 i ofyn i’r cyflwynydd a oedd e’n teimlo embaras ynghylch ei gyflog – sydd rywle rhwng £700,000 a £749,999.

Fe ofynnodd: “Dw i’n mwynhau eich rhaglen a dw i’n eich mwynhau chi’n bersonol, ond hoffwn ofyn cwestiwn uniongyrchol i chi. Ydych chi’n teimlo embaras o gasglu eich cyflog?”

Atebodd Jeremy Vine drwy ddweud ei fod yn “teimlo’n lwcus iawn bob dydd”, cyn i’r gwrandawr barhau i’w holi.

“Ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich talu gormod?”

Ond dywedodd Jeremy Vine: “Dw i ddim wir eisiau ateb hynny oherwydd dw i ddim yn teimlo mai dyma’r adeg iawn i fi.”

‘Cyfiawnhau’

Eglurodd Harry Jones ei fod e’n gyn-lowr ac adeiladwr a bod ganddo fe ffrindiau sydd wedi gweithio’n galed ar hyd eu hoes heb fawr o wobr ariannol.

Gofynnodd: “Sut allwch chi gyfiawnhau faint o arian rydych chi’n ei ennill?”

Fe alwodd am gwtogi cyflogau pawb sydd ar restr y BBC gan eu bod yn ennill dros £150,000 y flwyddyn, gan ychwanegu eu bod nhw “i gyd yn cael eich talu gormod”.

Ond yn gynharach yn y rhaglen, roedd Jeremy Vine ei hun wedi gofyn i bennaeth radio’r BBC, James Purnell pam fod cyflwynwyr fel fe yn derbyn cymaint o arian.

“Rydych chi’n ddarlledwr gwych, rydych chi’n darparu gwasanaeth cyhoeddus anferth,” meddai hwnnw.

“Dewch i ni ystyried yr wythnosau diwethaf pan ydych chi wedi bod yn trafod gofal angladdol a’r ffaith fod pobol yn cael eu twyllo yn hynny o beth… Mae’n rhywbeth dw i’n falch o’i gael ar y BBC, yn falch o’i gael yn ein gwlad ac mae’n chwarae rhan bwysig yn ein democratiaeth ni.”

Mae cyflog Jeremy Vine yn cynnwys ei waith radio a’i rôl fel cyflwynydd y cwis Eggheads.